Monitro’r Cyfryngau - Cymraeg

Lleoliad

Unrhyw le – yn y cartref

Ymrwymiad

Oriau hyblyg (yn ddelfrydol, lleiafswm o 4 awr yr wythnos) am 3 mis

Cyfrifoldebau allweddol

Bydd Gwirfoddolwyr monitro’r cyfryngau yn datblygu cronfa o waith ymchwil cyfryngau i herio agweddau negyddol tuag at bobl LHD yng Nghymru.

  • Monitro cylchgronau, papurau newydd a’r wasg ar-lein er mwyn dod o hyd i straeon am bobl a materion LHD, a’u casglu.
  • Neu monitro sianeli teledu neu radio i ddod o hyd i raglenni a straeon am bobl a materion LHD, a’u casglu drwy roi crynodebau byr o’r rhaglenni.
  • Clustnodi cyhoeddiadau, gwefannau, sianeli teledu a radio sy’n edrych ar faterion LHD ac ymateb i straeon perthnasol.

Sgiliau a chymhwysedd

  • Cyfathrebu’n dda ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Gwybodaeth sylfaenol am faterion LHD a’r cyfryngau yng Nghymru
  • Cymhwysedd sylfaenol prosesu geiriau, e-bost a’r rhyngrwyd
  • Siarad Cymraeg yn rhugl 
  • Byddai gwybodaeth sylfaenol am y wasg yng Nghymru yn ddymunol

Yr hyn y gallwn ei gynnig

  • Hyfforddiant
  • Cefnogaeth/mentora 1-1

Dyddiad cau

16/03/2012

Cyswllt

Ryan Jenkins                                                                                                           Swyddog Allgymorth Gwirfoddli                                              ryan.jenkins@stonewallcymru.org.uk 
Stonewall Cymru, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth