Cynorthwyydd Polisi a Gweinyddiaeth

Lleoliad

Caerdydd (1 diwrnod yn y swyddfa)

Ymrwymiad

Lleiafswm o 1 diwrnod yr wythnos am 3 mis yn ddelfrydol

Cyfrifoldebau allweddol

Cynorthwyo gydag ymgynghoriadau polisi a phrosiectau gweinyddol

  • Monitro a darllen ymgynghoriadau polisi er mwyn penderfynu pa rai sy’n berthnasol i LHD a chyfeiriadedd rhywiol
  • Cwtogi a chrynhoi ymgynghoriadau polisi                                                               
  • Yn ddibynnol ar sgiliau a diddordeb, gallech hefyd chwarae rhan wrth ddrafftio ymatebion i ymgynghoriadau perthnasol
  • Cynorthwyo i drefnu seminarau a chynhadledd Gweithlu Stonewall Cymru
  • Datblygu a diweddaru bas data cysylltiadau.

Sgiliau a chymhwysedd

  • Profiad o gynnal ymchwil mewn dyfnder
  • Hyder wrth ddadansoddi symiau mawr o wybodaeth er mwyn nodi’r pwyntiau allweddol ac ysgrifennu adroddiadau clir a chywir
  • Sgiliau gweinyddol cryf
  • Gallu sylfaenol mewn prosesu geiriau, e-bost a’r rhyngrwyd
  • Ysgogiad, hyblygrwydd, dibynadwyedd a’r gallu i weithio’n annibynnol

Yr hyn y gallwn ei gynnig

  • Hyfforddiant
  • Cefnogaeth/mentora 1-1
  • Profiad o bolisi ac ymchwil o fewn elusen genedlaethol
  • Costau teithio lleol a chinio

Dyddiad cau

16/03/2012

Cyswllt

Ryan Jenkins
Swyddog Allgymorth Gwirfoddli
ryan.jenkins@stonewallcymru.org.uk
Stonewall Cymru, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth