Allgymorth a Digwyddiadau

A ydych yn credu’n gryf mewn cydraddoldeb, yn frwdfrydig ac yn dda gyda phobl? Beth am ymuno gyda thîm Allestyn a Digwyddiadau Stonewall Cymru, a’n cynorthwyo i ledaenu’r neges am hawliau dynol, cydraddoldeb ac amrywiaeth?

Mae Stonewall Cymru yn mynychu ystod eang o ddigwyddiadau yn cynnwys Mardi Gras, Eisteddfod yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol a ffeiriau’r Glasfyfyrwyr. Fel gwirfoddolwr allestyn, byddwch yn dod gyda ni i ddigwyddiadau ac yn ein cynorthwyo i godi ymwybyddiaeth am Stonewall Cymru a’n hymgyrchoedd. Dyma gyfle gwych i chi gwrdd â phobl newydd a gwneud gwaith da ar yr un pryd.

Nid oes angen gwybodaeth fanwl am ein hymgyrchoedd - byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant angenrheidiol. Rydym yn edrych am bobl gyfeillgar, gymwynasgar, brwdfrydig sy’n credu’n gryf mewn cydraddoldeb a hawliau dynol.

Gallwch wirfoddoli cymaint neu cyn lleied ag yr ydych yn dymuno. Yn ddelfrydol, gofynnwn i’r holl wirfoddolwyr roi rhai oriau bob mis.

Byddwn yn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl offer angenrheidiol i ddenu’r tyrfaoedd, a chodi diddordeb, gan gynnwys bathodynnau, baneri a chrysau t.

Gallwn dalu costau teithio a lluniaeth rhesymol.

Am fwy o wybodaeth ac i ymuno gyda’n bas data gwirfoddolwyr anfonwch e-bost at laura.evans@stonewallcymru.org.uk 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth