Mae Llywodraeth Cymru yn ffurfio Fframwaith ar gyfer Gweithredu i fynd i'r afael â Throseddau Casineb ledled Cymru a bydd yn cael ei ddatblygu erbyn gwanwyn 2013. Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar droseddau casineb sy'n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig penodol, sef anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd / credo a chyfeiriadedd rhywiol. Clicwch yma.
Stonewall Cymru sy'n arwain y gwaith ar droseddau casineb homoffobaidd a bydd yn cynnal nifer o gyfarfodydd Rhanddeiliaid LHD ledled Cymru yn ystod y misoedd nesaf er mwyn i bobl LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol) gael rhoi eu barn ar dri maes blaenoriaeth – atal troseddau casineb; cynyddu'r nifer sy'n rhoi gwybod am y troseddau hyn i'r awdurdodau a gwella hyfforddiant a mynediad at gefnogaeth; a gwella'r ymateb gweithredol i droseddau casineb.
Cwblhewch yr Holiadur hwn gan Lywodraeth Cymru a rhowch eich barn. Mae’n bwysig cael clywed gan bobl LHD beth yw eich syniadau a’ch awgrymiadau. Clicwch yma.
Gwyliwch y dudalen hon i gael dyddiadau a lleoliadau cyfarfodydd Rhanddeiliaid LHD Stonewall Cymru yn ystod y misoedd nesaf:
Yn y cyfarfod hwn rydyn ni eisiau clywed am y gwaith rydych chi, neu eich grŵp LHD, yn ei wneud ar hyn o bryd er mwyn mynd i’r afael â thorseddau casineb homoffobaidd. Hoffem glywed eich awgrymiadau ac enghreifftiau o ffyrdd effeithiol o herio agweddau homoffobaidd, cynyddu'r nifer sy'n rhoi gwybod am droseddau casineb a gwella mynediad at gefnogaeth.
Bydd trafodaethau hefyd yn digwydd fel rhan o gyfarfodydd sydd wedi eu sefydlu, a bydd canlyniadau yn cael eu bwydo i grŵp Gorchwyl a Gorffen Llywodraeth Cymru:
• Grŵp Cyswllt Heddlu’r Gogledd – 8 Mai, Pencadlys Heddlu Gogledd Cymru, Bae Colwyn
• Fforwm Abertawe – 4 Gorffennaf, DVLA, Abertawe
• Grŵp Diogelwch Cymunedol LHD&T Gwent – 29 Mehefin, Casnewydd
--------------------------------------------------------------------------------------------------------
Yn 2009 penderfynodd Stonewall Cymru beidio cynnal cynhadledd flynyddol, ond yn hytrach cynnal pedwar o ddigwyddiadau rhanbarthol. Y bwriad fyddai taclo materion lleol perthnasol, lleihau problemau teithio, ysgogi rhaglen waith Stonewall Cymru, a’n galluogi i ymateb i faterion sy’n codi. Er bod y digwyddiadau hyn yn cael eu cynnal yn rhanbarthol, roeddent yn agored i unrhyw un o bob cwr o Gymru.
Cynhaliwyd wyth digwyddiad unigol rhwng Mehefin 2010 a Thachwedd 2011. Mynychodd cyfanswm o dros 300 o bobl, yn cynnwys cymysgedd o ddarparwyr gwasanaethau, mudiadau trydydd sector a phobl LHD. Roedd bron i hanner y cyfranogwyr yno fel unigolion LHD.
Yn y digwyddiadau roedd awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau yn cyfarfod pobl leol LHD. Roedd modd i bawb rannu eu barn a’u profiadau am addysg, iechyd, tai, diogelwch cymunedol a pholisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Cynhaliwyd y digwyddiadau dan nawdd caredig Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru neu gan Brosiect Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri Cymorth i Ddioddefwyr.
Beth oedd yr agwedd orau o’r digwyddiad?
Unigolyn LHD: “Cyfle i drosglwyddo’r neges yn uniongyrchol i’r rhai a all wneud gwahaniaeth yn lleol”
Unigolyn LHD: “Gwych cael gymaint o amser i drafod gwahanol faterion mewn ffordd anffurfiol ac adeiladol. Barn yn cael ei werthfawrogi – cael gwrandawiad. Siaradwyr gwych.”
Cynrychiolydd darparwr gwasanaethau: “Roedd digwyddiad Dweud Eich Dweud eleni’n wych. Roedd yn rhyngweithiol gydag elfennau ysgafn ond perthnasol. Mae’n gyfle gwych i rannu meddyliau, syniadau a phryderon o wahanol rannau o’n cymunedau amrywiol.”
Sylwadau am y dudalen