Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus ym Mehefin yn Ne Orllewin Cymru, mae’n falch gennym gyhoeddi 3 digwyddiad arall yng Nghanolbarth, Gogledd a De Ddwyrain Cymru yn Hydref a Thachwedd 2011. Dyma gyfle i chi gwrdd â phenderfynwyr lleol a darparwyr gwasanaeth addysg, iechyd, tai a diogelwch cymunedol i glywed beth y maent yn ei wneud i bobl LHD lleol, a rhannwch eich safbwyntiau ar faterion LHD. Cynhelir y digwyddiadau hyn gan Brosiect It's No Joke** a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru.
Os na chawsoch y cyfle i fynd i unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, yna mae’r cwestiynau nawr ar gael i chi eu hateb ar-lein. Cliciwch ar y ddolen isod sy’n cyfateb i’ch ardal chi.
Dydd Llun 24 Hydref – Canolfan Ieuenctid Llandrindod - 2.30PM - 6.30PM
Dydd Mercher 26 Hydref – Neuadd y Dref, Wrecsam - 4PM - 8PM
Dydd Gwener 11 Tachwedd – Theatr Dolman, Casnewydd- 4PM - 8PM
Beth oedd yr elfen orau o’r digwyddiad?
Heddlu: “Cyfarfod a siarad gyda phobl ifanc LHD a dysgu am eu teimladau a’u syniadau, yn arbennig am yr Heddlu”
Heddlu: “Sesiynau ymgysylltu- gweithio gydag asiantaethau eraill ac aelodau LHDT”
Heddlu: “Gwrando ar ddarparwyr gwasanaethau /mudiadau eraill am faterion sy’n effeithio ar gymunedau LHDT”
Cynrychiolydd darparwr gwasanaethau: “Codi proffil materion LHD. Clustnodi ffyrdd o symud ymlaen gyda’r materion”
Aelod grŵp LHD: “Dysgu am yr hyn sydd gennym yn barod i’n hamddiffyn”
Aelod grŵp LHD: “Y cyfan- roedd yn addysgiadol”
Unigolyn LHD: “Cael cyfle i siarad gyda darparwyr gwasanaethau am faterion LHD”
Sylwadau am y dudalen