Addysg: ein hawl
Persbectif Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) o fyd addysg.
Digwyddiad Blynyddol Stonewall Cymru 2009, 28ain Mawrth 2009, Venue Cymru, Llandudno, 12:00 -6pm
Gwybodaeth cefndirol
Ymunwch â ni am ddiwrnod bywiog ac addysgiadol yn edrych ar faterion Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol (LHD) mewn Addysg yng Nghymru.
- Cewch ddathlu ymgyrchoedd llwyddiannus a dysgu am offer newydd i daclo homoffobia ym myd addysg.
- Cewch ddweud eich dweud drwy ystafell ymson, wal graffiti a digwyddiadau eraill.
- Cewch glywed am brofiadau personol pobl LHD ym myd addysg.
- Cewch rwydweithio gyda phobl broffesiynol a phobl LHD a gwneud ffrindiau newydd.
- Dewch i farchnadfa'r grwpiau LHD, sefydliadau byd addysg a gwasanaethau ar gyfer bobl LHD yng Nghymru.
Cewch glywed:
- Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt AC
- John Sam Jones, Ymgynghorydd Addysg Bersonol a Chymdeithasol, Cyngor Sir Dinbych
Ymysg y testunau bydd:
- Addysg Bellach ac Uwch - Kay Barnes, Swyddog LHDT UCMC
- Persbectif Grwpiau Ieuenctid - Hannah Rowan, Viva
- Prosiect cynghori yn yr ysgol - Sylvia Jones, Llywodraeth Cynulliad Cymru
- Persbectif yr ysgol - Alwena Tomos, Ysgol Glan Clwyd
- Offer i'w defnyddio mewn ysgolion - Rhian Keyse, Swyddog Addysg ac Ieuenctid
- Bwlio Homoffobaidd
- Rhieni LHD
- Persbectif athrawon LHD
- Persbectif disgyblion LHD
Adborth ac adroddiad
Diolch i bawb a fynychodd y digwyddiad hwn, gan ei wneud yn lwyddiant ysgubol.
Bydd adroddiad o’r digwyddiad a dogfennau atodol yn cael eu hysgrifennu dros yr ychydig fisoedd nesaf a’u cyhoeddi yma.
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu copi o’r adroddiad ar y Digwyddiad Blynyddol, anfonwch ebost at: Rhian Keyse: Rhian.keyse@stonewallcymru.org.uk neu Ele Hicks: eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen