Ar y dudalen hon:
Cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru dydd Sadwrn 31 Mawrth ac roedd yn llwyddiant ysgubol.
Ymunodd cynrychiolwyr o’r Heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, mudiadau diogelwch eraill a phobl o’r gymuned LHD gyda ni yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe am ddiwrnod bywiog ac addysgiadol yn edrych ar ffyrdd o daclo troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru.
Bu’r Cynadleddwyr yn:
Nod y gynhadledd oedd cynyddu hyder pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng ngwasanaethau’r heddlu a’r llys, ac annog pobl i gwyno am droseddau casineb gan arwain at ostyngiad mewn troseddau casineb homoffobaidd ledled Cymru.
Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?
A fyddech yn barod i rannu eich profiadau a helpu i ysgogi ein gwaith lobïo ac ymgyrchu?
Os ydych wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd hoffem gadw cofnod o’ch profiad. Yn achlysurol iawn, a gyda’ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i’r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion sy’n wynebu cymunedau LHD.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma i weld ffurflen astudiaeth achos, lle gallwch adael i ni wybod am y math o waith gyda’r cyfryngau y byddech yn gysurus yn ei wneud.
Cliciwch yma i lwytho adroddiad Cynhadledd 2007: Ochr yn Ochr – taclo troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru
Cliciwch yma i lwytho atodiad yr adroddiad i lawr
Cliciwch yma i lwytho ymateb Gwasanaeth Erlyn y Goron i’r adroddiad ac argymhellion
Sylwadau am y dudalen