Er hynny, i nifer ohonom, gall gwneud ewyllys olygu cymaint yn fwy. Dyma un o'r ffyrdd mwyaf arwyddocaol a fydd gennym byth i gefnogi Stonewall, ac o ganlyniad helpu lesbiaid, dynion hoyw a deurywolion eraill.
Rydym wedi dod mor bell, yn arbennig gyda Phartneriaethau Sifil, a oedd yn fuddugoliaeth arwyddocaol. O'r diwedd, mae'r ddeddfwriaeth hon wedi rhoi yr un hawliau i ni â chyplau heterorywiol, nid oes angen i bartneriaid hoyw ofni colli eu cartrefi pan fo'u ceraint yn marw na theimlo ergyd trethi etifeddiaeth anheg. Ni wyddom beth a ddaw yn y dyfodol, ond gwyddom bod Stonewall yn parhau i fod wedi ymrwymo i homoffobia a chamwahaniaethu.
Mae nifer o bobl ifanc yn dal i wynebu camdriniaeth homoffobaidd dychrynllyd mewn ysgolion ledled y wlad. Dywed un o bob pedwar o athrawon ysgolion uwchradd eu bod yn ymwybodol o fwlio corfforol homoffobaidd, a dywed pedwar o bob pump eu bod yn ymwybodol o fwlio ar lafar. Mae'r effaith ar y bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn ddinistriol, gyda bron i hanner y rhai sydd wedi cael eu bwlio wedi ystyried hunan-laddiad neu hunan-niwed, ac mae eu haddysg hefyd yn dioddef gan eu bod yn fwy tebygol o adael yr ysgol yn gynnar. Dyma pam fod Stonewall yn ymgyrchu i roi terfyn ar y math hwn o gamdriniaeth.
Drwy adael rhodd i Stonewall yn eich ewyllys, gallwch chi hefyd ein cynorthwyo i gynllunio a pharhau ein gwaith hanfodol o amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag ddiflastod camdriniaeth homoffobaidd.
Os hoffech wybod mwy am adael rhodd i Stonewall yn eich ewyllys, cysylltwch ag Monte Fields ar 020 7593 1876 neu drwy ebost monte.fields@stonewall.org.uk
Sylwadau am y dudalen