Cawn ein hatgoffa yn barhaus bod llawer o ragfarn i’w goresgyn o hyd – dyna pam y mae Stonewall yn parhau i lobïo, i addysgu ac i ymgyrchu.
Mae Stonewall Cymru wedi gwneud cynnydd mawr ar y daith tuag at gydraddoldeb, ond mae llawer i’w gyflawni o hyd. Er enghraifft, mae ymgyrch Addysg i Bawb Stonewall yn gweithio gydag ysgolion, athrawon a phobl ifanc er mwyn rhoi diwedd ar fwlio homoffobaidd.
Rydyn ni’n dibynnu ar unigolion – fel chi – i gefnogi ein gwaith wrth i ni barhau i wella bywydau miliynau o bobl. Os ydych chi am helpu i greu Cymru lle bydd gan bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol nid yn unig hawl i driniaeth gyfartal yn ôl y gyfraith, ond lle byddan nhw’n cael y driniaeth honno hefyd, dewch yn Gyfaill neu’n Gyfaill Clos i Stonewall Cymru heddiw.
Er mwyn dod yn Gyfaill i Stonewall Cymru, rhowch £5 neu ragor y mis er mwyn cefnogi ein gwaith hanfodol. Byddwch yn cael:
• Y rhifyn diweddaraf o’n cylchgrawn i Gyfeillion sy’n tynnu sylw at lwyddiannau diweddar a’n gwaith presennol
• Pin llabed seren Stonewall
• Gwahoddiadau i nosweithiau a digwyddiadau arbennig i Gyfeillion
• Blaenoriaeth wrth archebu lle yng Nghinio Cydraddoldeb blynyddol Stonewall
• Gwahoddiad i Wobrau blynyddol Stonewall
• Gwahoddiadau i Nosweithiau Addewidion a Digwyddiadau Seneddol ecsgliwsif
Cliciwch yma i drefnu eich cyfraniad rheolaidd ar-lein
Sylwadau am y dudalen