Fodd bynnag, i lawer ohonon ni, bydd gwneud ewyllys yn golygu llawer mwy. Mae’n un o’r ffyrdd mwyaf ystyrlon a fydd gennym byth o gefnogi Stonewall Cymru, ac yn ein tro, i helpu pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol eraill.
Rydyn ni wedi dod mor bell, yn enwedig o ran Partneriaethau Sifil, a oedd yn garreg filltir. Mae’r ddeddfwriaeth hon wedi rhoi yr un hawliau i ni â chyplau heterorywiol, o’r diwedd. Ni fydd partneriaid hoyw o hyn ymlaen yn pryderu am golli eu cartrefi pan fydd eu hanwyliaid yn marw, neu’n teimlo effaith treth etifeddu annheg. Dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig, ond rydyn ni’n gwybod bod Stonewall Cymru yn mynd i barhau i herio homoffobia a gwahaniaethu.
Mae llawer o bobl ifanc yn dal i wynebu bwlio homoffobaidd ofnadwy mewn ysgolion ledled y wlad. Mae un ymhob pedwar o athrawon ysgol yn dweud eu bod yn ymwybodol o fwlio homoffobaidd corfforol ac mae pedwar ymhob pump yn dweud eu bod yn ymwybodol o fwlio llafar. Mae’r effaith ar bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn drychinebus. Mae bron â bod hanner y rhai sydd wedi eu bwlio wedi ystyried lladd eu hunain neu hunan-niweidio, ac mae eu haddysg hefyd yn dioddef gan eu bod yn fwy tebygol o adael yr ysgol yn gynnar. Dyma pam y mae Stonewall yn ymgyrchu i roi diwedd ar y math hwn o fwlio.
Drwy adael rhodd yn eich ewyllys i Stonewall Cymru, gallwch chi hefyd ein helpu ni i gynllunio ymlaen a pharhau â’n gwaith hanfodol o ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag gofid bwlio homoffobaidd.
Os hoffech wybod rhagor am adael rhodd yn eich ewyllys i Stonewall Cymru, cysylltwch â Bethan drwy ffonio 029 2023 7744 neu anfon ebost i bethan.spear@stonewallcymru.org.uk.
Sylwadau am y dudalen