
Mae Llysgenhadon Stonewall Cymru yn rhoi cyfle i chi roi mwy na dim ond cefnogaeth ariannol. Gallwch hefyd ddod yn rhan o’n gwaith. Helpwch ni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled y Deyrnas Unedig.
Er mwyn ymuno â Llysgenhadon Stonewall Cymru, gofynnwn i chi ystyried rhodd fisol reolaidd sydd heb fod yn llai na £100 y mis (neu £1,200 y flwyddyn).
‘Roeddwn i a fy mhartner yn teimlo bod rhaglen y Llysgenhadon yn un o’r rhaglenni elusennol gorau rydyn ni’n eu dilyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddigwyddiad eleni.’ – un o Lysgenhadon presennol Stonewall
Yn gyfnewid am eich cefnogaeth hael, mae Llysgenhadon Stonewall yn cael y manteision canlynol:
- Holl fanteision Cyfeillion a Chyfeillon Clos, yn ogystal â’r canlynol:
- Y cyfle i ddod yn rhan o’n gwaith a rhannu eich arbenigedd gyda ni – er enghraifft:
- Gwnewch gais i fod yn fentor yn ein Rhaglen Ymgysylltu Ieuenctid neu rhannwch eich profiad drwy fod yn siaradwr ysbrydoledig yn Nigwyddiad Ieuenctid Stonewall.
- Cyfrannwch at ein gwaith polisi ac ymchwil drwy wirfoddoli fel astudiaeth achos neu drwy rannu eich gwybodaeth.
- Gwahoddiadau i dderbyniad Seneddol Stonewall
- Blaenoriaeth wrth archebu lle yn ein digwyddiadau sy’n gwerthu pob tocyn, gan gynnwys Gwobrau Stonewall a Chinio Cydraddoldeb Stonewall*
- Gwahoddiad i dderbyniad ecsgliwsif lle gallwch gyflwyno dau gyfaill i’r rhaglen Llysgenhadon
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig merched-yn-unig ar gyfer ein cefnogwyr benywaidd
- Cydnabyddiaeth yn rhaglen Cinio Cydraddoldeb Stonewall a’r Adroddiad Blynyddol
- Gwahoddiad i Ginio Llysgenhadon blynyddol Stonewall
- Cyfle i ddod i’n briff ymgyrchu dwywaith y flwyddyn gydag uwch staff Stonewall
- Gwahoddiadau i ddigwyddiadau Rhwydweithio Llysgenhadon drwy gydol y flwyddyn
- Cyfle ychwanegol i ariannu rhai o brosiectau allweddol Stonewall Cymru
- Gwasanaeth personol gan ein tîm Cyfranwyr Mawr
Er mwyn cofrestru ar-lein i roi rhodd fisol reolaidd o ddim llai na £100 y mis, cliciwch yma (neu £1,200 y flwyddyn, cliciwch yma) neu i gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â Rheolwr Cyfranwyr Mawr Stonewall, Tom Woodward drwy ffonio 020 7593 1872 neu anfon e-bost i thomas.woodward@stonewall.org.uk.
* Mae cost ychwanegol.
Sylwadau am y dudalen