Llwyddiant - Priodas Gyfartal wedi pasio yn Nhy’r Cyffredin!
Diolch o’r galon am eich cefnogaeth yn cyrraedd y fan yna.
OND, nawr yw’r rhan anodd…
Rydym dal ddim ond hanner ffordd i sicrhau priodas gyfartal. Mae’r prif her yn dod nawr yn Nhy’r Arglwyddi. Mae rhaid sicrhau dyw’r lleisiau swnllyd y sawl sy’n gwrthwynebi ddim yn boddi’r achos dros gydraddoldeb.
Mae Stonewall wedi ymladd yn hir ac yn galed er mwyn sicrhau cydraddoldeb cyfreithiol i bobl hoyw. Fodd bynnag, mae’n drist nodi bod yr Arglwydd Tebbit wedi dweud hyn mor ddiweddar â 2010:
Mae arolygon barn diweddaraf Stonewall o agweddau’r cyhoedd – Byw gyda’n Gilydd (llwytho i lawr) – yn dangos bod dros 70% o bobl Prydain, ac yn hollbwysig, 60% o bobl â ffydd, yn credu erbyn hyn y dylai cyplau o’r un rhyw allu priodi ei gilydd. Mae’r ymchwil hon yn ein helpu i herio’r syniad sarhaus bod perthnasau rhwng cyplau o’r un rhyw yn llai sefydlog, yn llai cyfoethog neu’n llai dilys na pherthnasau cyplau heterorywiol.
Priodas gyfartal yw’r mesur deddfwriaethol olaf ar gyfer cydraddoldeb – bydd yn helpu i roi diwedd ar y dirmyg cyhoeddus gan rai tuag at berthnasau hoyw. Bydd yn anfon neges gwbl bendant at y rheini sy’n dal i wrthwynebu cydraddoldeb i ddweud bod Prydain yn yr unfed ganrif ar hugain yn trin pawb yn gydradd.